Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Rhyddhad ar gyfer Safleoedd Treth Arbennig) (Cymru) 2024
Pwynt Craffu ar Rinweddau:
1. Esbonio’r rhesymeg dros osod y Rheoliadau hyn gerbron y Senedd cyn i’r Awdurdod gwblhau ei ystyriaeth o’r cynllun arfaethedig.
Ymateb:
Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu cynllun rheoli cymorthdaliadau ar y cyd â Llywodraeth y DU i gwmpasu’r holl ryddhadau, cymhellion a chyllid datganoledig ac a gadwyd yn ôl sydd ar gael mewn perthynas â safleoedd treth arbennig. Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU am sicrhau bod dod i rym y rhyddhad arfaethedig ar gyfer safleoedd treth arbennig TTT yn cyd-daro â dod i rym dynodiad Llywodraeth y DU o’r safle treth arbennig Porthladd Rhydd Celtaidd ac argaeledd y cymhellion treth a gadwyd yn ôl. Bydd hyn yn golygu y gellir hawlio’r rhyddhad safle treth arbennig TTT yn syth o’r dyddiad y dynodir y safle treth arbennig. Gosododd Llywodraeth y DU reoliadau gerbron Senedd San Steffan ar 17 Hydref 2024 i ddynodi’r safle treth arbennig Porthladd Rhydd Celtaidd mewn cysylltiad â rhyddhadau a gadwyd yn ôl. Disgwylir i’r dynodiad a’r rheoliadau rhyddhad TTT ddod i rym ar 26 Tachwedd 2024, yn ddarostyngedig i’r gweithdrefnau perthnasol.
Er mwyn sicrhau bod cyd-daro ar 26 Tachwedd 2024, bu’n ofynnol i’r Rheoliadau hyn gael eu gosod gerbron y Senedd cyn i’r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd orffen ystyried y cynllun rheoli cymorthdaliadau arfaethedig. Er y gallai hyn beri risg o honiadau o achub y blaen, ni fydd modd darparu unrhyw ryddhad TTT i’r safle treth arbennig Porthladd Rhydd Celtaidd cyn 26 Tachwedd 2024, a fydd ar ôl cyhoeddi adroddiad yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd ar y cynllun rheoli cymorthdaliadau, a chofrestru’r cynllun hwnnw, gan felly liniaru unrhyw risg.
2. Cyn dadl y Senedd ar y Rheoliadau, gadarnhau a yw’r Awdurdod wedi codi unrhyw bryderon mewn perthynas â’r rhyddhad newydd rhag y dreth trafodiadau tir ac, os felly, ymateb y Llywodraeth.
Ymateb: